OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1066 (Cy. 105) (C. 46)
ADDYSG, Cymru
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”). Mae’r Gorchymyn yn dwyn i rym ar XX Ionawr 2014 Bennod 1 o Ran 2 o Fesur 2011. Mae Pennod 1 o Ran 2 o Fesur 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffedereiddio ysgolion a gynhelir.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 1 i 9 |
16 Tachwedd 2012 |
2012/2656 (Cy.288) (C.106) |
Adrannau 22 i 25 |
22 Awst 2013 |
2013/2090 (Cy.205) (C.87) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1066 (Cy. 105) (C. 46)
ADDYSG, Cymru
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011(Cychwyn Rhif 3) 2014
Gwnaed 16 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 33 o Fesur Addysg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru)
2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2. Daw adrannau 10 i 15 a 17 i 21 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 28 Ebrill 2014.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2014